“Ti lot pertach pan ti’n gwenu…”

Ma siarad am iselder yn neud lot o bobl teimlo’n itha awkward so yn aml iawn, heb drio, ma nhw’n blurto mas pethe rili twp. Just to name a few….

 

“Byse ni byth yn meddwl galle merch mor bert ddioddef o iselder” – achos yn amlwg ma pawb sydd yn isel yn gwisgo dillad du ac yn cerdded o gwmpas fel y Llipryn Llwyd.

“Stim rheswm da ti deimlo’n isel” – O na?! Teimlo’n well yn barod.

“Awyr iach sydd ishe arno ti, cer mas am run” – Ma codi o’r gwely yn anodd, ond 5k bach, dim problem!

 

Ma pobl sy’n siarad da fi fyla yn gloi iawn yn sylwi “never again” achos fi’n mynd yn grac. Fi’n gwbo, surprise surprise Marged Llyr yn grac, ond seriously stim syniad da rhai pobl faint ma fe di cymryd i fi godi o’r gwely, brwsho’n nannedd a brwsho ngwallt heb son am gerdded mas o’r drws frynt. So pan ma’n cymryd popeth i fi ddim llefen a ma rhwyun yn gweud “Ti lot pertach pan ti’n gwenu”….. BOOOOOOM!!!!!!

Nath y mrawd i gal ei donsils mas yn ddiweddar, wedi bod yn dioddef yn ddrwg ers sbel a wir wedi bod mor sal ond nid unwaith nath rhywun ddweud “Dere mlan, gwena – stim rheswm da ti deimlo fel hyn”  Ma felse bod hi’n anodd i bobl deall rwbeth ma nhw ffili gweld, felse ‘broken brain’ ddim cweit mor wael a torri coes neu braich.

OND, ma’r ymenydd yn organ a fel pob organ arall yn y gorff, ma’n gallu mynd yn sal. Ma arbennigwyr yn gweud bo iselder yn cael ei achosi gan anghydbwysedd o rhai cemegion yn yr ymenydd. Felly, weithie ma angen help ar yr ymenydd. Ma rhywun sy’n dioddef o diabetes ddim yn cael ei gwestiynnu pam ma angen cymryd insulin – so pam cwestiynnu rhywun sy’n cymryd antidepressant?

Ma iselder yn glefyd, dim gwendid. Ma angen i bobl dod i ddeall hwnna. Dyw iselder ddim yn dywyllwch sy’n fai ar neb, i fi ma’n rhan ohono fi erbyn hyn a fi di derbyn byddain cymryd tabledi am amser hir (ma nhw’n blydi good stwff!!).

Ond ma rhaid rhaid rhaid RHAID cal gwared o’r stigma sydd yngwlm a iechyd meddwl. Un o’r prif rhesyme fi’n siarad mor uchel am iselder yw i drio cal pobl sydd ddim yn dioddef i deall, ma angen ei help nhw i bethe newid.

Dyw e ddim yn rhwydd gwbod beth i ddweud wrth rhywun sy’n isel ond dechreuwch gyda “Ti’n ok?” a chlust i wrando and you’re half way there!!

 

 

 

 

P.S – Clefyd yw iselder – ond fel pob clefyd ma na pethe allwch chi neud i helpu’ch hunan. Top tips Mwdi Marged bydd y blog nesaf…. (HA!)

One comment

Leave a comment